Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 11 Rhagfyr 2019
Amser:
09.00 -
12.26
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5757
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
John Griffiths AC (Cadeirydd) Dawn Bowden AC Huw Irranca-Davies AC Mark Isherwood AC Caroline Jones AC Leanne Wood AC |
Tystion: |
Jessica Blair, Electoral Reform Society Cymru Huw Rees, Rheolwr Archwilio Perfformiad, Swyddfa Archwilio Cymru Martin Peters, Swyddfa Archwilio Cymru John Bader, Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol Greg Owens, Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol Sophie Howe, Future Generations Commissioner Heledd Morgan, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Catherine Hunt (Ail Glerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) Osian Bowyer (Ymchwilydd) Jennifer Cottle (Cynghorydd Cyfreithiol) Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· John Bader, Cadeirydd Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol
· Greg Owens, Is-gadeirydd Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
Jess Blair, Cyfarwyddwr Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Huw Rees, Cyfarwyddwr Archwilio Perfformiad, Swyddfa Archwilio Cymru
· Martin Peters, Pennaeth y Gyfraith a Moeseg, Swyddfa Archwilio Cymru
4.2 Cytunodd swyddogion i ysgrifennu at y Pwyllgor gyda'u cynigion ar gyfer mecanwaith amgen i'r amod o ddefnyddio adroddiadau arolygu arbennig yn rheoliadau ailstrwythuro Adran 128.
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru
· Heledd Morgan, Ysgogwr Newid yn Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol
6.1a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Llywydd ynghylch amserlen Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru).
6.2a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch y sesiwn graffu ddiweddar ar Fil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru).
6.3a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch yr ymgynghoriad ar newidiadau i drefniadau llywodraethu gweithredol mewn prif gynghorau.
6.4a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Grŵp Gweithredu Celestia ynghylch materion diogelwch tân yn natblygiad Celestia.
6.5a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch yr ymateb i adroddiad y Pwyllgor ar fudd-daliadau yng Nghymru.
6.6a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ynghylch gwybodaeth ychwanegol yn dilyn y cyfarfod ar 7 Tachwedd.
7.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2, 3, 4 a 5.